Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.59 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Joanna Jordan, Llywodraeth Cymru Dr Grant Robinson, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Dave Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am ymadawiadau cynnar (Mehefin 2015)
2.2 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Sir Powys am ymadawiadau cynnar (Mehefin 2015)
2.3 Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf (Mai 2015)
3 Gofal heb ei drefnu: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
3.1 Penderfynodd y Pwyllgor ddechrau’r sesiwn dystiolaeth gyda Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru gyda thrafodaeth ar lywodraethu byrddau iechyd. Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon a bydd yn cael ei haildrefnu.
4 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i ymchwiliad i Lywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru.
4.2 Cytunodd Dr Goodall i:
· gadarnhau amseriad adroddiad Capita ar gynllunio ariannol, pan fyddai’r Bwrdd yn trafod ei ymateb dros dro.
· darparu nodyn o'r holl ddigwyddiadau difrifol yn deillio o lefel nyrsys / ward yn ystod y deuddeg mis diwethaf ledled Cymru.
· darparu nodyn o aelodau annibynnol presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'u sgiliau a’r profiad o recriwtio pobl o gefndiroedd ariannol / masnachol.
· darparu nodyn ar gydymffurfio â’r Polisi Disgyblu Cymru Gyfan (a chopi o'r polisi).
· anfon copi o'r adroddiad gan y Gymdeithas Frenhinol y Seiciatryddion a'r camau a gymerwyd.
· darparu nodyn ar agweddau gweithredol y gwasanaeth y tu allan i oriau.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Gwrthodwyd y cynnig.
6 Gofal heb ei drefnu: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon.
7 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon.